Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Rhentu Cartrefi(Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2022
Pwynt Craffu Technegol 1:
Ym marn Llywodraeth Cymru, mae’r Ddeddf a’r Rheoliadau yn ei gwneud yn glir y bydd pob adolygiad o’r fath yn cael ei gynnal gan y landlord (neu swyddog i’r landlord) bob amser, fel sy’n digwydd o dan y gyfraith bresennol, ac felly nid ydym o’r farn bod angen diwygiad mewn perthynas â hyn.
Pwynt Craffu Technegol 2:
Mae’r Rheoliadau hyn yn adlewyrchu trefniadau
adolygu presennol, ac nid yw Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o
unrhyw sefyllfaoedd pan fo problem o’r fath erioed wedi codi
mewn gwirionedd. Felly nid ydym yn bwriadu gwneud unrhyw
ddiwygiadau i’r Rheoliadau. Fodd bynnag, bydd Llywodraeth
Cymru yn parhau i adolygu’r modd y gweithredir y
darpariaethau hyn yn ymarferol.
Pwynt Craffu ar Rinweddau:
Mae rheoliad 9(a) yn caniatáu i’r gwrandawiad fynd yn
ei flaen yn absenoldeb deiliad y contract, ond nid yw’n gywir
dehongli hyn fel pe bai’n caniatáu i’r
gwrandawiad fynd yn ei flaen ni waeth beth fo’r amgylchiadau.
Yn hytrach, mae rheoliad 9(b) yn caniatáu i’r
adolygydd arfer disgresiwn ynglŷn ag a ddylai’r
gwrandawiad fynd yn ei flaen, neu ynglŷn â chynnal yr
adolygiad drwy ddull arall (er enghraifft, ymarfer desg yn hytrach
na gwrandawiad), neu ei aildrefnu o bosibl os yw’r person
sy’n cynnal yr adolygiad yn ymwybodol o unrhyw amgylchiadau a
allai egluro absenoldeb deiliad y contract neu ei
gynrychiolydd.
Yn yr un modd, mae rheoliad 10 yn caniatáu i ddeiliad
contract ofyn am ohirio gwrandawiad, ond unwaith eto mae’n
rhoi disgresiwn i’r landlord ynglŷn ag a ellir
cyfiawnhau gohirio.
Oherwydd natur y contractau meddiannaeth sy’n
dod o fewn y Rheoliadau hyn, bydd y mwyafrif o landlordiaid yn
landlordiaid cymunedol (neu’n unigolion preifat sy’n
arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus). O ganlyniad, byddai gan
unrhyw landlord o’r fath sy’n ystyried cais yn unol
â’r Rheoliadau hyn ddyletswydd o dan y gyfraith
gyhoeddus i wneud hynny mewn ffordd deg, ac i gyfiawnhau ei
benderfyniad pe câi ei herio.
Yn y ddau achos, mae’r Rheoliadau yn ceisio sicrhau
cydbwysedd teg rhwng hawl y landlord i geisio terfynu neu estyn
math penodol o gontract meddiannaeth, a hawl deiliad y contract i
benderfyniadau o’r fath fod yn destun adolygiad. Mae
rheoliadau 9 a 10 yn caniatáu i’r landlord arfer
disgresiwn er mwyn galluogi deiliad y contract i fynychu
gwrandawiad neu wneud cais i’w ohirio, ond hefyd er mwyn
sicrhau na chaiff y system ei chamddefnyddio (er enghraifft, os yw
deiliad contract wedi methu â mynychu gwrandawiadau a
drefnwyd yn flaenorol ar sawl achlysur, neu wedi ceisio gohirio heb
reswm da, er mwyn atal penderfyniad rhag cael ei wneud).